|
Ofcom has today published a further consultation on proposals to promote network competition in superfast and ultrafast broadband.
This forms part of Ofcom’s review of the Wholesale Local Access (WLA) market, which is used to provide telephone and internet services (including superfast broadband) to residential and business consumers.
Today’s consultation follows on from Ofcom’s proposals for the regulation of the WLA market, published on 31 March 2017. It sets out our proposals for non-discrimination in providing wholesale superfast and ultrafast broadband services. This would prevent BT from reducing its wholesale charges only in those areas where rivals are starting to build new networks.
These proposals are designed to encourage investment in new ultrafast networks, promote competition and protect consumers.
Today’s consultation closes on 12 January 2018. We expect to publish our final decision in early 2018.
Hyrwyddo cystadleuaeth rhwydwaith band eang cyflym iawn a gwibgyswllt
Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi ymgynghoriad pellach ar y cynlluniau i hyrwyddo cystadleuaeth rhwydwaith band eang cyflym iawn a gwibgyswllt.
Mae hyn yn rhan o adolygiad Ofcom o’r farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol (WLA), a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau ffôn a rhyngrwyd (gan gynnwys band eang cyflym iawn) i ddefnyddwyr preswyl a busnes.
Daw ymgynghoriad heddiw yn dilyn cynigion Ofcom ar gyfer rheoleiddio'r farchnad WLA, a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2017. Mae’n amlinellu ein cynigion ar gyfer peidio â gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaethau band eang cyflym iawn a gwibgyswllt. Byddai hyn yn atal BT rhag gostwng ei ffioedd cyfanwerthu ddim ond yn yr ardaloedd hynny lle y mae cystadleuwyr yn dechrau adeiladu rhwydweithiau newydd.
Lluniwyd ein cynigion i annog buddsoddi mewn rhwydweithiau gwibgyswllt, hyrwyddo cystadleuaeth a gwarchod defnyddwyr.
Daw ymgynghoriad heddiw i ben ar 12 Ionawr 2018. Gobeithiwn gyhoeddi ein penderfyniad terfynol ddechrau 2018.
|